• Published: 21 February 2021
  • Category:

Er ein bod wedi wynebu mwy na digon o heriau yn 2020, mae wedi troi’n flwyddyn addawol i bryfed peillio ar hyd arfordir Sir Benfro, diolch i’r prosiect Pobl, Llwybrau a Phryfed Peillio.

Mae’r cynllun peilot tair blynedd yn cael ei gefnogi gan Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro a Stena Line, a’i nod yw cynyddu bioamrywiaeth ar hyd y darn o Lwybr yr Arfordir rhwng Niwgwl ac Abereiddi. Mae wedi gwneud cynnydd mawr ers ei sefydlu fymryn dros flwyddyn yn ôl.

Yn ystod y cyfnod hwn, mae mwy na 25 milltir o Lwybr yr Arfordir wedi cael ei arolygu am bryfed peillio, gyda’r nod o ganfod ardaloedd i’w gwella er mwyn darparu cynefin gwell. Drwy sicrhau bod gwelliannau i fioamrywiaeth yn ganolog i waith cynnal a chadw Llwybr yr Arfordir, gellir galluogi cysylltedd ar gyfer rhywogaethau, yn ogystal â chefnogi mynediad a phori ar yr arfordir.

Cyfrannwyd mwy na 200 o oriau gan wirfoddolwyr i’r prosiect hyd yma, drwy arolygon pryfed peillio a thasgau mwy ymarferol fel clirio prysgwydd a chreu mwy na 200 metr o fanciau gwenwyn.

Bu’r wardeiniaid yn arbennig o brysur dros fisoedd y gaeaf, yn torri rhyw 2km o dwneli gwynt ar Lwybr yr Arfordir cyn i dymor nythu’r adar ddechrau.

Y peth gorau hyd yma yw canlyniadau’r arolwg o gacwn ar drawslin ar Faes Awyr Tyddewi ar ôl i gyfyngiadau’r cyfnod clo gael eu llacio. Mewn tair awr, cofnodwyd chwe rhywogaeth wahanol a mwy na 150 o wenyn.

Mae pryfed peillio yn elfen hanfodol o’n bioamrywiaeth, ac mae pryfed yn gyfrifol am beillio 90% o gnydau. Yn ogystal â pheillio cnydau bwyd, maen nhw hefyd yn hanfodol i oroesiad planhigion sy’n cynnal llawer o’n bywyd gwyllt.

Dywedodd Vicky Squire, Warden Pryfed Peillio Awdurdod y Parc: “Roeddwn i’n lwcus iawn ym mis Awst eleni, o’r diwedd, i ddod o hyd i ddau sbigyn o Droellig yr Hydref (Spiranthes spiralis) wrth ymyl Llwybr yr Arfordir ym Mhorthclais. Mae’r rhain yn degeirianau prin, eiddil yr olwg sydd i’w gweld fel arfer ar laswelltiroedd calchaidd. Maen nhw’n hoff o laswellt byr ac mae cysylltiad rhwng eu dirywiad a dwysáu amaethyddiaeth.

“Nawr bod samplau ohonynt wedi cael eu darganfod eto ym Mhorthclais, 10-15 mlynedd ers iddynt gael eu cofnodi ddiwethaf, rydyn ni’n gobeithio gweithio gyda’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol y gaeaf hwn i wella amodau cynefinoedd er mwyn iddynt ffynnu.”