
Mae byd o ddŵr yn aros i ymwelwyr yn Sir Gaerfyrddin
MEWN dyffryn coediog prydferth wedi’i amgylchynu gan ddŵr, mae yna brofiad arbennig iawn yn aros i gael ei ddarganfod.
Prosiect Adfer Cyfnod y Rhaglywiaeth, y talwyd amdano trwy ffrwyth llafur ymgyrch codi arian anhygoel, yw’r darn mwyaf o waith y mae Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru wedi ymgymryd ag ef ers iddi agor ym mis Mai 2000.
Dros 200 mlynedd yn ôl, hwn oedd un o barciau dŵr harddaf y DU. Mae wedi cymryd pum mlynedd a dros £7 miliwn.
Bu’n dyst i adferiad llyn 1.5 km o hyd, rhaeadr a sgwd; gwaith adeiladu argae 350 m o hyd, a chwe phont newydd.
Ond ‘nawr mae wedi’i adfer ac yn barod i bawb ei weld.
Mae’r Ardd Fotaneg ‘nawr yn gartref i Ganolfan Adar Ysglyfaethus Prydain yn ogystal – casgliad unigryw o ysglyfwyr, a’r unig le yn y DU lle y gallwch weld eryr euraid a môr-eryr Ewrop yn hedfan, gydag arddangosfeydd hedfan trawiadol bob dydd.
Mae’n cynnig cyfle gwych i ddod wyneb yn wyneb â chreaduriaid anhygoel, ac yn gwarantu profiadau agos iawn gyda thylluanod, hebogau, gweilch, eryrod, cudyllod a barcutiaid coch, profiadau na fydd byth yn mynd yn angof.